Dramau Hir

JELI BEBIS gan Miriam Llewelyn
Mae’n adrodd hanes teulu sydd yn brwydro i ymdopi a’r dasg o ofalu am Ted, y tad, sydd yn dioddef o’r afiechyd alzheimers. Ond daw tro ar fyd yn sgîl ymweliad Kate, y ferch hynaf. Mae hi yn gorfodi aelodau’r teulu i wynebu realaith y sefyllfa dorcalonnus hon. Er tristwch y sefyllfa ceir ambell i fflach o hiwmor sydd yn cynnig rhyddhad i’r darllenydd ac i’r gynulleidfa. Drama. Cast: D3 M3 £9.50 

 

Dramau Fer

AR AMRANTIAD gan Jeremy Hylton Davies (Addasiad Annes Gruffydd o 'In the Blinking of an Eye')
Mae Joyce a Madge yn rhannu picnic ac yn hel atgofion am gyfeillgarwch oes. Mae bywyd y ddwy ynghlwm wrth eu cariad o’r un dyn. Mae ei gymeriad unigryw wedi gadael ei ôl ar fywyd y ddwy; darganfyddwch sut trwy gyfrwng deialog bachog, cyflym ond meddylgar y gomedi yma. Drama sy’n cynnig ysgrifennu o safon uchel a chyfle tragi-comic dihafal i ddwy actores hŷn. Comedi Ddu. Cast: M2 £5.00

AMSER I HAU, AMSER I FEDI gan Harry Glass (Addasiad George P Owen o 'A New Interest in Life')
Noswyl Nadolig a theulu’n gorffen paratoadau am yr Ŵyl. Tad, mam a merch sy’n fyfyrwraig mewn Ysgol Feddygol, yn mwynhau cysur cartref dosbarth canol goludog. Daw chwaer y fam heibio a thry’r paratoadau’n hunllef. Drama gignoeth o onest nad yw’n osgoi’r gwir annymunol nac yn cynnig atebion chwaith. Rhaid i’r gynulleidfa benderfynu. Drama. Cast: D1 M3 £4.50 

YR ARCH gan Helen Griffin (Addasiad Annes Gruffydd o 'The Ark')
Drama ingol o ddwys wedi ei saernïo’n arbennig o grefftus sy’n olrhain teithi meddwl mam a dwy ferch wedi marwolaeth Tada. Yn gyforiog o hiwmor ac o ddagrau pethau dyma’r ddrama un act i ferched orau ers blynyddoedd. Drama. Cast: M3 £5.00 

MERCH O ERS TALMW gan Manon Wyn Williams
Ceir tri chymeriad yn y ddrama hon – Merch 1, Merch 2 a Merch 3. Y mae’r cymeriadau yn y ddrama yn siarad trwy gyfrwng monologau. Maent fel pe baent yn eistedd mewn ystafell aros yn disgwyl i weld cynghorydd. Trwy gydol y ddrama, mae’r tair yn olrhain profiadau dinistriol o’u gorffennol sy’n amlwg wedi effeithio’n fawr arnynt. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddrama, datguddir mai gwahanol agweddau a gwahanol gyfnodau ym mywyd un person a geir yma, ac nid tri chymeriad unigol. Drama. Cast: M3 £4.50 

NOSON DAN GYNFAS gan Lisa Hunt (Addasiad Annes Gruffydd o 'A Night Under Canvas')
“... mae Valmai baranoig, cwbwl gaeth i’w phils, newydd ollwng cwpwl o Valiums, tra mae Brenda’n ymgodymu a’i ffantasi gwrywaidd arferol. Mae’r gynulleidfa’n sâl wrth chwerthin, yn foddfa o chwys, a minnau’n rhyfeddu fod yna ddwy sedd wag i gomedi ddoniolaf y flwyddyn” Andy Davies ‘Gair Rhydd’ Comedi. Cast: M2 £5.00 

PORTH Y GWYLL gan Gareth Evans-Jones
Beth yw’r enaid? Beth yw ei berthynas gyda’r corff? A yw ffawd wedi pennu trywydd ein bywyd? Dyma’r math o gwestiynau yr ymdrinir â hwy yn y ddrama ddamcaniaethol Porth y Gwyll. Yn y ddrama mae Enaid ar fin croesi’r rhiniog i’r Byd a chael ei uno gyda’i gorff ond cyn iddo allu gwneud hynny mae’n rhaid iddo geisio deall y gweledigaethau y cafodd yn ystod y naw mis diwethaf. Digwydd y sgwrsio a’r dadlau rhwng Enaid, Cydwybod a Chwant ynglŷn â’r gweledigaethau ym Mhorth y Gwyll. Wrth i’r ddrama fynd rhagddi caiff gwirionedd ei ddatgelu na fydd modd ei newid. Ynteu a fydd? Drama. Cast: 5 £4.50

S’DIM OTS GEN I gan Cherry Vooght (Addasiad Buddug Lloyd o 'See If I Care')
Wedi ei lleoli ar faic mewn parc cyhoeddus, mae’n hawdd ei llwyfannu. Dwy wraig oedrannus yn dianc yn ddyddiol o ddiflastod cartref yr henoed y maent yn byw ynddo i fwynhau’r heulwen a rhoi’r byd yn ei le. Pob dydd yn ddefodol gyffelyb, pob sgwrs yn dilyn yr un patrwm. Daw merch ifanc heibio, ac, ymhen y rhawg, un arall, ac ni fydd bywyd byth eto yr un peth. Mae llwyddiant y ddrama’n dibynnu ar gymeriadaeth didwyll, dilychwin. Drama. Cast: M6 £4.50

Y TU HWNT I’R LLENNI gan Eic Davies
Enillydd cystadleuaeth cyfansoddi drama fer, Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1941. Meddai John Gwilym Jones yn ei feirniadaeth “Helyntion cwmni drama y tu hwnt i’r llenni sydd yma... ei rhagoriaeth bennaf yw’r feirniadaeth sydd ynddi o dan gochl hiwmor caredig, iach, o fân genfigen aelodau cwmni at ei gilydd, o ddifrawder a diffyg difrifwch rhai ohonynt...” Comedi. Cast: D5 M4 £4.50

WAL gan Aled Jones Williams
Dau gymeriad, un ystafell, un wal a sgwrs yn nhull Beckett a Pinter fydd yn ein tywys ar hyd llwybrau tywyll is-ymwybod yr unigolion hynod hyn. Mae’r ddrama rymus a phwerus hon yn cynnig her i actorion, cyfarwyddwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Drama. Cast: D2 £4.50

 

Updated Medi 2022

Back to Top

 

http://www.samuelfrench-london.co.uk