DAW Bursaries for Ty Newydd Writing Courses | CDdC Bwsari Cyrsiau Ty Newydd
14. Active Theatre*
David Britton and Philip Mackenzie
*This course is postponed until March 2011. How do we create scripts which encourage and embrace the possibilities of energized theatrical performance? How do we grow a written text from a performance idea? How do we develop theatrical metaphor from words and movement?
This new course from two of
Philip Mackenzie and David Britton both began their careers in
They have worked together in developing a series of unconventional works for Sherman Cymru’s youth theatre, including Bob’s Dance Hall, Gospel, and as the Sherman’s last show before closing for refurbishment, the large –scale promenade performance piece Oedipus/Antigone.
David Britton has won major awards for his work in
Philip Mackenzie was, for 12 years, co-artistic director of the internationally-acclaimed company Man Act. His work has been seen in over 25 countries. In 2007 he received the prestigious Creative Wales award. He is currently Acting Head of Creative Learning at Sherman Cymru,
Fee: £525 (single) £450 (shared)
In partnership with Ty Newydd www.tynewydd.org This course is open to all but DAW is offering one full bursary and places at a 10% discount to its members. Applicants should contact Teresa Hennessy on 029 2045 2200 or email: teresa@dramawales.org.uk for details. Closing date for DAW bursary applications is July 30th.
*Active Theatre [Cwrs trwy gyfrwng y Saesneg]
David Britton a Philip Mackenzie
*Cwrs wedi ei ohirio tan Mawrth 2011. Sut medrwn ni greu sgriptiau sy’n annog a chofleidio’r posibilrwydd o greu perfformiad theatrig grymusol? Sut medrwn ni ddatblygu tecst ysgrifenedig o syniad am berfformiad? Sut medrwn ni ddatblygu metaffor theatrig o eiriau a symudiad?
Bydd y cwrs newydd hwn gan ddau o ymarferwyr drama mwyaf blaenllaw Cymru yn rhoi’r cyfle i’r mynychwyr i brofi’r hyn sy’n digwydd pan fo syniadau ffrwydrol a gwreiddiol yn cwrdd â ffurf ac ymarfer ddisgybledig. Anelir y cwrs at weithwyr theatr cyfredol a’r rhai hynny sy’n dod i’r golau ynghyd â rhai mentrus a brwdfrydig gyda diddordeb mewn ymchwilio i’r posibiliadau cydweithrediadol yn y theatr fodern. Ymysg eraill, byddai’n addas i ysgrifenwyr, actorion, dawnswyr, cynllunwyr ac athrawon. Dechreuodd Philip Mackenzie a David Britton ar eu gyrfaoedd yn Awstralia cyn symud i Gymru.
Maent wedi gweithio hefo’i gilydd tra’n datblygu cyfres o weithiau anghonfensiynol ar gyfer theatr ieuenctid Sherman Cymru, gan gynnwys Bob’s Dance, Gospel ac fel sioe olaf y Sherman cyn ei chau ar gyfer gwaith adnewyddu, y perfformiad promenad mawreddog o Oedipus/Antigone.
David Britton – mae David wedi ennill prif wobrau am ei waith yn Awstralia, trwy weithio ar y cyd â mentrau megis yr enwog Black Swan Theatre Company. Mae’n ysgrifennu a chyfarwyddo’n helaeth ar gyfer teledu a radio ac am 2010 ef yw’r dramodydd ar gyfer y fenter gyntaf cydrhwng y National Theatre for Wales a Chwmni Theatr Volcano. Mae’n darlithio mewn Ysgrifennu ar gyfer Perfformio ym Mhrifysgol Abetrtawe.
Philip Mackenzie – am 12 mlynedd bu Philip yn gyd-gyfarwyddwr artistig cwmni Man Act a gydnabyddir yn rhyngwladol. Perfformiwyd ei waith mewn dros 25 o wledydd ar draws y byd. Yn 2007, derbyniodd wobr glodfawr Creative Wales. Ar hyn o bryd ef yw Pennaeth Gweithredol Dysgu Creadigol yn Sherman Cymru, Caerdydd.
Ffî: £525 (ystafell sengl) £450 (ystafell i’w rhannu)
Mewn cydweithrediad â Ty Newydd www.tynewydd.org Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb ond mae’r Gymdeithas yn cynnig un lle bwrsari llawn ynghyd â llefydd ar ddisgownt o 10% i’w haelodau. Dylai ymgeiswyr gysylltu â Teresa Hennessy ar 02920 452200 neu e-bostio teresa@dramawales.org.uk am fanylion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am fwrsari DAW yw 30ain Gorffennaf.
18. Writing for Performance
November 1 – 6
Kaite O’Reillly
This is a dynamic and diverse residency for writers of performance keen to explore different source materials, processes, and dramatic structures, whilst seeding new work. The course will be intensive and stimulating, allowing participants to engage with a series of respected and ground-breaking practitioners, working in new ways.
The week will be a series of themed workshops with course tutor Kaite O’Reilly, plus two special full day workshops: PERFORMING PLACES led by Mike Pearson, and PATTERNS IN PLAYS, led by Sarah Woods (see below).
Daily workshops will include practical exercises exploring site, the senses, existing stories and memory as inspiration and source material. Alongside the practical, skills-based sessions and generation of new short work, will be the opportunity for participants to reflect on process and structure. At the end of the week writers will leave with tools and approaches that can be used long after the course has finished.
Evening sessions will include informal discussion, video screenings, and the opportunity to share work in progress in a relaxed environment.
Fee: £525 (single) £450 (shared)
In partnership with Ty Newydd www.tynewydd.org This course is open to all but DAW is offering one full bursary and places at a 10% discount to its members. Applicants should contact Teresa Hennessy on 029 2045 2200 or email: teresa@dramawales.org.uk for details. Closing date for DAW bursary applications is July 30th.
WRITING FOR PERFORMANCE (Cwrs trwy gyfrwng y Saesneg)
Tachwedd 1 – 6 • Kaite O’Reilly
Dyma breswyliad gwahanol a deinamig ar gyfer y rhai hynny sy’n ysgrifennu gwaith ar gyfer ei berfformio ac sy’n awyddus hefyd i archwilio gwahanol ffynonellau deunyddiau, prosesau a strwythurau dramatig, tra’n cymell gwaith newydd. Bydd yn gwrs dwys ac ysgogol a fydd yn caniatau i’r mynychwyr ddod i gysylltiad â chyfres o ymarferwyr uchel eu parch sy’n torri tir newydd, gan weithio mewn dulliau newydd.
Bydd yr wythnos yn gyfres o weithdai ar wahanol themau dan arweiniad Kaite O’Reilly, ynghyd â dau weithdy undydd arbennig: PERFORMING PLACES dan arweiniad Mike Pearson a PATTERNS IN PLAYS dan arweiniad Sarah Woods (gweler isod)
Bydd y gweithdai dyddiol yn cynnwys ymarferion ymarferol yn archwilio safle, y synhwyrau, straeon sy’n bodoli a’r côf fel ysbrydoliaeth a ffynhonnell deunydd. Ochr yn ochr â’r sesiynau ymarferol yn seiliedig ar sgiliau a chynhyrchu gwaith o’r newydd, bydd cyfle i’r mynychwyr feddwl am broses a strwythur. Ar ddiwedd yr wythnos bydd y mynychwyr yn ymadael gydag arfau a dulliau newydd y gellir eu defnyddio ymhell ar ôl i’r cwrs orffen.
Bydd y sesiynau min nos yn cynnwys trafodaethau anffurfiol, clipiau fideo, ynghyd â chyfle i rannu gwaith ar y gweill mewn awyrgylch hamddenol.
MIKE PEARSON
Sut gellir defnyddio’r côf fel asiant creadigol wrth ddyfeisio theatr?
Sut gellir ysgogi lleoliad yn ddramatig?
Sut gall perfformiad gyfrannu tuag at ymhelaethu gwerthfawrogiad y cyhoedd a dealltwriaeth o’r tirlun?
Gweithdy ymarferol fydd yn cyflwyno dulliau o ysgrifennu bywgraffiadol a thopograffaidd wrth greu testun ar gyfer perfformio.
Mae MIKE PEARSON wedi bod yn creu ym myd y theatr yng Nghymru ers 1970. Bu’n gyfarwyddwr artistig hefo Theatr Labordy Caerdydd (1971-1980) a Brith Gof (1980-1997). Mae’n parhau i gydweithio hefo’r artist Mike Brookes fel Pearson/Brookes (1997 – presennol) ac fel artist unigol yn ogystal. Mae’n gyd-awdur Theatre/Archaeology (2001) hefo Michael Shanks ac ef yw awdur In Comes I: Performance, Memory and Landscape (2006). Ar hyn o bryd mae’n Athro mewn Astudiaethau Perfformiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
SARAH WOODS: PATTERNS IN PLAYS
Gall ysgrifennu drama olygu rheoli cyn gymaint o wahanol elfennau fel y gall rhywun deimlo fwy fel cyfrifydd nag artist. Bydd y gweithdy hwn yn archwilio sut y mae’r holl elfennau hyn yn cysylltu â’i gilydd, pob un yn cyfrannu i un patrwm sengl – eich drama.
SARAH WOODS: Mae ei dramau theatr diweddar yn cynnwys The Thief of Baghdad (Royal Opera House Linbury Theatre), The Help (Cardboard Citizens), Box (Birmingham Rep), Soap (Theatre Royal Northampton), Timon of Athens (Cardboard Citizens), Hilda (Hampstead Theatre), Walking on Water (Theatre Centre) ynghyd â fersiwn newydd o Fantastic Mr Fox Roald Dahl (Little Angel/Sioe Nadolig RSC, sydd i gael ei hadfywio gan Little Angel ar gyfer yr Hydref 2010).
Ar gyfer y radio dros y flwyddyn ddiwethaf mae Sarah wedi trefnu addasiad newydd o The Borrowers ynghyd â dwy ddrama-ddogfen wreiddiol am y newid yn yr hinsawdd: Getting to Zero a Getting to Four Degrees gyda gwyddonwyr ac ymgyrchwyr yn y maes yn cynnwys George Monbiot a Kevin Anderson (Canolfan Tindal).
Bu Sarah yn rhedeg y cwrs MPhil mewn Drama ym Mhrifysgol Birmingham o 2002 hyd 2006. Mae’n diwtor rheolaidd yng Nghanolfannau’r Arvon Foundation.
Yn ddiweddar bu KAITE O’REILLY yn gweithio ar addasiad o’r ddrama hynaf yn y byd, Persians gan Aeschylus ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru (National Theatre Wales), wedi’i chyfarwyddo gan Mike Pearson mewn cynhyrchiad ar safle penodol ar dir y Weinyddiaeth Amddiffyn ym mis Awst 2010. Yn ddiweddar cafodd ei hanrhydeddu gyda Chomisiwn Anghyfyngedig, rhan o’r Olympiad Diwylliannol, yn gysylltiedig â Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. Mae’n ddramodydd mawr ei bri ac yn diwtor a mentores brofiadol, fu’n datblygu ysgrifenwyr ar gyfer Theatr Soho, Rep Birmingham, North West Playwrights, Contact, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth i enwi dim ond rhai. Bu’n dysgu drama a dramäwriaeth ar lefel ôl-raddedig mewn nifer o wahanol brifysgolion gan gynnwys Exeter, Morgannwg, Singapore a Phrifysgol Genedlaethol y Celfyddydau yn Korea.
www.kaiteoreilly.com
Preswyl: £525 (ystafell sengl); £450 (ystafell i ddau)
Mewn cydweithrediad â Ty Newydd www.tynewydd.org.uk
Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb ond mae’r Gymdeithas yn cynnig un lle bwrsari llawn ynghyd â llefydd ar ddisgownt o 10% i’w haelodau. Dylai ymgeiswyr gysylltu â Teresa Hennessy ar 02920 452200 neu e-bostio teresa@dramawales.org.uk am fanylion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am fwrsari DAW yw 30ain Gorffennaf.












